Flower of Scotland

Baner Yr Alban

Flower of Scotland ("Blodyn yr Alban") yw anthem genedlaethol Yr Alban. Ysgrifennwyd y gân yn Saesneg yn y chwedegau gan Roy Williamson o'r grŵp gwerin The Corries. Mae'r fersiwn Gaeleg gan John Angus Macleod. Mae'r geiriau yn cofio Brwydr Bannockburn yn 1314 pan drechodd yr Albanwyr, dan arweiniad Robert Bruce, fyddin Lloegr dan arweiniad Edward II.


Developed by StudentB